t in
that sense the mead and wine were to them as poison.
Y GODODIN
I.
Gredyf gwr oed gwas
Gwrhyt am dias
Meirch mwth myngvras
A dan vordwyt megyrwas
Ysgwyt ysgauyn lledan
Ar bedrein mein vuan
Kledyuawr glas glan
Ethy eur aphan
Ny bi ef a vi
Cas e rof a thi
Gwell gwneif a thi
Ar wawt dy uoli
Kynt y waet elawr
Nogyt y neithyawr
Kynt y vwyt y vrein
Noc y argyurein
Ku kyueillt ewein
Kwl y uot a dan vrein
Marth ym pa vro
Llad un mab marro
II.
Kayawc kynhorawc men y delhei
Diffun ymlaen bun med a dalhei
Twll tal y rodawr ene klywei
Awr ny rodei nawd meint dilynei
Ni chilyei o gamhawn eny verei
Waet mal brwyn gomynei gwyr nyt echei
Nys adrawd gododin ar llawr mordei
Rac pebyll madawc pan atcoryei
Namen un gwr o gant eny delhei
III.
Kaeawc kynnivyat kywlat erwyt
Ruthyr eryr en ebyr pan llithywyt
E arnot a vu not a gatwyt
Grwell a wnaeth e aruaeth ny gilywyt
Rac bedin ododin odechwyt
Hyder gymhell ar vreithel vanawyt
Ny nodi nac ysgeth w nac ysgwyt
Ny ellir anet ry vaethpwyt
Rac ergyt catvannan catwyt
IV.
Kaeawc kynhorawc bleid e maran
Gwevrawr godrwawr torchawr am rann
Bu gwevrawr gwerthvawr gwerth gwin vann
Ef gwrthodes gwrys gwyar disgrein
Ket dyffei wyned a gogled e rann
O gussyl mab ysgyrran
Ysgwydawr angkyuan
V.
Kaeawc kynhorawc aruawc eg gawr
Kyn no diw e gwr gwrd eg gwyawr
Kynran en racwan rac bydinawr
Kwydei pym pymwnt rac y lafnawr
O wyr deivyr a brennych dychiawr
Ugein cant eu diuant en un awr
Kynt y gic e vleid nogyt e neithyawr
Kynt e vud e vran nogyt e allawr
Kyn noe argyurein e waet e lawr
Gwerth med eg kynted gan lliwedawr
Hyueid hir ermygir tra vo kerdawr
VI.
Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw
Chwerw en trin a llain en emdullyaw
Byrr vlyned en hed yd ynt endaw
Mab botgat gwnaeth gwynnyeith gwreith e law
Ket elwynt e lanneu e benydyaw
A hen a yeueing a hydyr a llaw
Dadyl diheu angheu y eu treidaw
VII.
Gwyr a aeth Ododin chwerthin wanar
Disgynnyeis em bedin trin diachar
Wy lledi a llavnawr heb vawr drydar
Colovyn glyw reithuyw rodi arwar
VIII.
Gwyr a aeth gatraeth oed fraeth eu llu
Glasved eu hancwyn a gwenwyn vu
Trychant trwy beiryant en cattau
A gwedy elwch tawelwch vu
Ket elwynt e lanneu e benydu
Dadyl dieu angheu y eu treidu
IX.
Gwyr a aeth gatraeth veduaeth uedwn
Fyryf frwythlawn oed cam nas kymhwyllwn
E am lavnawr coch gorvawr gwrmwn
Dwys dengyn ed emledyn aergwn
|