yfiawnder iddynt, dyna fi wedi
cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae'n llawen genyf gael
odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a'ch
traserch chwi at eich gwlad a'ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy
ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr
haeddbarch,
Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,
EVAN EVANS.
AT Y CYMRY.
Pan welais fod un o _Ysgodogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_
dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i'r _Saesoneg_, mi a
dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi
awduraidd, gorhenaidd, o'r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws
hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna'r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd
ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od
oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll;
ac nid oes dim wedi dyfod i'n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn
unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw'r cyweiriau
cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y
_Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od
oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym
ddim hanes am ein hynafiaid o'n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y
Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn
ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr
hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy
ddwylo'r _Meneich_; gwyr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i'w
dibenion eu hunain.--Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon
_Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu
gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i
_Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu'r _hanes_
sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i
_Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i'r
_Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn
amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i'w gweled yng Nghymru; ond
ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_:
_Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a
phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y
Beirdd, e fuasai genym gywirach hane
|