l cystal a chwi,
na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu
Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y
_Llywydd_, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad
diweddaf y _Bibl Cyssegrlan_, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr.
Ef a dal Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo'r byd hwn, a'i
holl fawredd a'i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae'r wlad a'r
iaith yn dra rhwymedig i'r _Gwr o Benbryn_, am gasglu cymmaint o
_Hanesion ynghylch ein Hynafiaid_, na chlywodd y _Saeson_ braidd son
erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr _Camden_, pei gwelynt fal i
mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a'u tuedd gwyrgam, yn bychanu
ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru
mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor
mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw
oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae _y Gwr o Gaergybi_
ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu _Gwaith yr hen Feirdd_ godidog gynt; ac
ir wyf yn cyfaddef mai o'i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o'r odlau
sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i'ch
gwlad a'ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes
hon. Ef a ddichon hyn beri i'n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn
well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna
hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn
odiaeth. Hyn a'm hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond
bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i'w
gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd
ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach. Nid oedd genyfi
ond torri'r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau.
Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw
o'r _Saeson_, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dal ei ddangos i'r
byd: a bod un o drigolion yr _Uch Alban_ gwedi cyfieithu swrn o waith hen
fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a'i
osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen
feirdd awduraidd ni, sydd eto i'w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y
bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr
awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o'n hen feirdd ein
hunain i'r byd; ac os darfu i mi wneuthur c
|